Croeso i fy mlog. Rwtsh llwyr am Gemeg a Chyfrifiaduron gydag ambell gyrch i'r byd personol.

05/02/2011

Acenion i Gliniaduron heb NumLock

Gwnes brynu gliniadur i'r mab ychydig yn ôl (Dell Inspiron 1545). Yn anffodus, nid oes NumLock ar y bysellfwrdd. Mae hwn yn golygu does dim modd defnyddio'r llinellau tarw i gynhyrchu nodau fel Â, ẅ, ỳ, Ú. Hyd yn hyn, roedd yn rhaid iddo ddefnyddio'r CharMap a chopïo a gludo o fanna. Potsh llwyr.

Wel, des i ar draws MSKLC (The Microsoft Keyboard Layout Creator) heddiw. Rhaglen gan Microsoft yw hwn sydd yn gadael i chi adeiladu 'hotkeys' arbennig. Gwnes gysylltu'r holl acenion i'r allwedd AltGr.
Dyma'r acenion sydd yn y ffeil zip: AEIOUWYaeiouwy crymion, disgynedig, dyrchafedig, diaraesis; ANOano tild (~), Cc sedila.

Gallwch ei lawrlwytho yma.

Dadbaciwch y ffeil i rhyw ffolder o'ch dewis a dylech weld rhywbeth fel hyn:

Er mwyn arsefydlu'r pecyn, rhedwch y ffeil setup.exe. Dyna'r cyfan sydd angen ei wneud.

Os ydy iaith eich cyfrifiadur wedi'i gosod i Saesneg (EN), bydd yn rhaid i chi osod hwn i'r Gymraeg (CY). Fel rheol mae'r bar iaith i'w weld ar waelod y sgrin.











Er mwyn mewnosod acenion, bydd angen pwyso:
  • AltGr + 6 ac yna pwyso'r llafariad (e.e. AltGr + 6, a = â)
  • AltGr + 2 ac yna pwyso'r llafariad (e.e. AltGr + 2, E = Ë)
  • AltGr + ' ac yna pwyso'r llafariad (e.e. AltGr + ', u = ú)
  • AltGr + ¦ ac yna pwyso'r llafariad (e.e. AltGr + ¦, y = ỳ)
  • AltGr + , ac yna pwyso C neu c (Ç neu ç)
  • AltGr + # ac yna pwyso ANOano (e.e. AltGr + #, N = Ñ)
Na fydd y bysellfwrdd hwn yn gweithio os ydy'r iaith wedi'i gosod i EN.
*PWYSIG - ar gyfer bysellfyrddau heb NumLock yn unig.

2 sylw:

Anonymous said...

Pam nad wyt ti'n jyst defnyddio rhaglen fach To Bach?

http://www.draig.co.uk/draig/English/multilingual/tobach/Pages/default.aspx

Alan Davies said...

Dwi'n ymwybodol o To bach, ond o beth dwi'n cofio, mae'n gweithio gydag acenion crymion. Dwi ddim yn cofio'r defnydd o acenion disgynedig a dyrchafedig a diaresis. Mae'r enghraifft dwi wedi cynnwys yn caniatàu yr holl acenion a all fod o ddefnydd, gan gynnwys tilde a cedilla - defnyddiol os yn cyflawni gwaith cartref ieithoedd tramor modern - dim angen newid y iaith fewnbwn pob hyn a hyn. Beth bynnag, diolch am yr adborth. Os ydy To Bach yn caniatàu'r acenion eraill - ymddiheuriadau.