Croeso i fy mlog. Rwtsh llwyr am Gemeg a Chyfrifiaduron gydag ambell gyrch i'r byd personol.

08/02/2011

Creu Bysellfwrdd Eich Hunain Gyda MSKLC

**Ar gyfer y rheiny ohonoch sydd heb NumLock ar eich cyfrifiadur**
Yn dilyn fy mhost diwethaf, efallai bod rhai angen creu bysellfyrddau eu hunain. Felly, dyma ychydig o gamau i ganiatàu hyn:

1. Ewch i http://msdn.microsoft.com/en-us/goglobal/bb964665 a lawrlwytho'r pecyn [MSKLC.EXE (10.1MB)].
2. Rhedwch y ffeil a myned i mewn i'r broses arsefydlu. Dylech weld rhywbeth fel hwn:


3. Mae modd seilio'ch bysellfwrdd ar fysellfwrdd sy'n bodoli eisoes, ond dwi'n mynd i ddechrau un o'r newydd. Yn gyntaf newidiwch briodweddau'r bysellfwrdd (Project > Properties).

Mae'n bwysig eich bod yn dewis 'Welsh' o'r maes 'Language'.

4. Yn gyntaf llenwch y nodau 'plaen' sydd yn bresennol ar eich cyfrifiadur. Dyma'r dewisiadau diofyn a Shift States: Shift.

5. Nawr gallwch lenwi'r Alt+Ctrl (AltGr).


Bydd eich bysellfwrdd chi yn wag, ger llaw - heb unrhyw allweddau wedi'u lliwio.

6. Dewiswch allwedd (e.e. 2 - er mwyn creu cyfres o allweddau diaresis, e.e. ä, ë...).

Rhowch y rhif i'r blwch a dewis All...

7. Dewiswch Dead Key View, Dead Key drws nesaf i'r alt+ctrl+(key) a phwyso'r botwm (...).


8. Nesaf, llenwch y data priodol. Gallwch gael y codau o CharMap ar Windows (ac ar ddiwedd yr erthygl hon):


9. Ailadroddwch y cam hwn gydag allweddau eraill (e.e. ¦ 6 ' , #) a'u hacenion (e.e. à â á ç ã) .

10. Dylech gadw'r ffeil hwn o dro i dro (File > Save Source File).

11. Nawr, dewiswch Project > Validate Layout a Project > Test Keyboard Layout.

12. Unwaith bod popeth yn iawn, dewiswch Project > Build DLL and Setup Package. Bydd hwn yn creu ffolder o ffeiliau. Unwaith eich bod yn barod i'w arsefydlu, rhedwch y ffeil setup.exe. Dylai hwn arsefydlu'r bysellfwrdd yn awtomatig.

** Os oes gwall - posib eich bod wedi creu'r ffolder hwn o'r blaen - os felly cadwch y bysellfwrdd o dan enw arall neu gallwch ddileu'r hen fersiwn.

Bàs grom (â) ddyrchafiedig (á) ddisgynedig (à) diaresis (ä) tild (ã) sedila (ç)
A U+00c2 U+00c1 U+00c0 U+00c4 U+00c3
C U+00c7
E U+00ca U+00c9 U+00c8 U+00cb
I U+00ce U+00cd U+00cc U+00cf
O U+00d4 U+00d3 U+00d2 U+00d6 U+00d5
N U+00d1
U U+00db U+00da U+00d9 U+00dc
W U+0174 U+1e82 U+1e80 U+1e84
Y U+0176 U+00dd U+1ef2 U+0178
a U+00e2 U+00e1 U+00e0 U+00e4 U+00e3
c U+00e7
e U+00ea U+00e9 U+00e8 U+00eb
i U+00ee U+00ed U+00ec U+00ef
o U+00f4 U+00f3 U+00f2 U+00f6 U+00f5
n U+00f1
u U+00fb U+00fa U+00f9 U+00fc
w U+0175 U+1e83 U+1e81 U+1e85
y U+0177 U+00fd U+1ef3 U+00ff

0 sylw: