Diolch i Llusi am yr awgrymiadau. Wedi derbyn 90%+ ohonyn nhw!
Gwnes i drio beidio â chyfieithu'n lythrennol er mwyn osgoi 'rhedeg allan o le'. Felly, maddau i mi am beidio â derbyn rhai o'r awgrymiadau er eu bod yn cyfieithiadau mwy cywir na'r caciaith a oedd gen i!
Yn anffodus, oherwydd fy mod wedi prosesu'r holl awgrymiadau, maen nhw wedi diflannu. Yr un olaf dwi'n cofio gwneud oedd 'Trefnu gan' -> 'Trefnu yn ôl', ar y 3ydd/4ydd tudalen dwi'n meddwl.
10 sylw:
Dim ond lan at 'Trefnu gan' -> 'Trefnu yn ôl' es i, ac yna anghofio beth o'n i'n wneud a chau'r cyfrifiadur lawr! Wyt ti am i fi gario mlaen o'r pwynt yna ac awgrymu rhagor?
Byddai hwnna'n grêt Llusi (cario ymlaen dwi'n meddwl). Ware teg, mae gwirio gwaith rhywun arall yn gallu bod yn fwy o waith na'i wneud o'r newydd.
Er gwybodaeth, dwi wedi defnyddio 'gyrru' yn lle 'anfon'. Dwi ddim eisiau newid y rhain, er os wyt ti'n meddwl fy mod i'n hollol rong, rho wybod. Mae sawl gair dwi wedi dyfeisio hefyd (i'm cywilydd!). Mudanu ar gyfer 'to mute' a Ffefrynnu ar gyfer 'to favourite'. Gâs gen i eiriau Tecno-Americanaidd salw, ond yn anffodus, mae angen geiriau fel hyn yn y Gymraeg ambell waith, fel eu bod yn dod yn eiriau go iawn. :( Beth bynnag os oes gwelliannau ar gyfer y rhain, grêt!
Diolch eto.
Iawn, caria i ymlaen gyda fe pan gaf i gyfle i eistedd lawr gyda dishgled.
Dewisais i 'anfon' achos o'n i'n meddwl taw dyna'r gair mwya safonol niwtral i bawb. Mae 'gyrru' yn swnio'n fwy llafar/Gog i fi, fel y byddai 'hala' i ti, sef y gair dwi'n ei ddefnyddio ar lafar.
Dwi'n casáu'r termau Americanllyd yna hefyd, ond os nad oes gair swyddogol neu ffordd dda o aralleirio mae rhaid bod yn ddyfeisgar, ond oes?
Wedi gweld 'gyrru' ar lawer o safleoedd, felly es i gyda hwnna. Os wyt ti'n meddwl ei fod yn rhy ogleddol, gwna'i newid y lot yn syth!!!
Diolch 'to.
Wel nid beth dwi'n ei feddwl sy'n bwysig. Ond os yw'r Termiadur a TermCymru yn dweud mai "anfon" yw'r gair safonol, sai'n gweud llai!
Anfon fydd hi 'te! Er cofia, dwi'n lico hala'n well. [Clywed y gwichian nawr]. Gwnaf ati i'w newid.
OK anfon yw hi. Ar yr iPhone hefyd.
OK, wedi gwirio hyd at #151. Rhai dal angen mwy o ystyriaeth, felly dwi heb eu clirio.
Hoffi "...at ei ffefrynnau" yn lle "ffefrynnu" - briliant.
Wedi penderfynu cadw gyda 'defnyddair' am nawr.
Diolch.
Iawn, heb gael cyfle i wneud rhagor 'to. Mae'n cymryd sbel ond yw e? Rwy'n eitha hoff o "ddefnyddair" hefyd ond nid dyna yw'r gair, yn ôl y Termiadur a TermCymru, yn anffodus.
Sori wedi bod ar fy ngwyliau...
> Rwy'n eitha hoff o "ddefnyddair" hefyd ond nid dyna yw'r gair, yn ôl y Termiadur a TermCymru, yn anffodus.
Dwi'n deall hynny, er dwi wedi clywed y gair ar sawl achlysur ac (i mi) mae'n ychydig mwy 'swish'. Llawn ceg ac ynystwyth yw 'enw defnyddiwr'. Hefyd, rhy hir ar adegau wrth geisio â'i ffitio mewn i le 8 nod (username).
OK, nôl at y golygu o ddifri nawr...
Post a Comment