Pellach i'm post y bod Grooveshark yn atal eu gwasanaeth tu hwnt i'r UDA, dwi wedi cael cadarnhad o'r cwmwi taw rhwtsh llwyr yw hwn. Felly, gwnaf gredu ynddyn nhw am nawr a mynd ati i fuddsoddi amser i greu rhestrau chwarae. Mae "groovylists" ar gael sydd yn trosi rhestrau chwarae Spotify i Grooveshark. Dwi wedi gwneud hyn gydag ychydig o lwyddiant. Gwnaeth tua 70% o'r caneuon drosi'n llwyddiannus. Ddim rhy ffôl.
Ger llaw, dwi wrthi ar hyn o bryd yn cyfieithu Grooveshark i'r Gymraeg. Mae fersiwm Android wedi'i chyflawni. Dwi tua 50% cyflawn ar y fersiwn ar-lein a'r fersiwn iPhone (jailbreak).
Dylwn i orffen erbyn diwedd wythnos nesaf. Er, lan i Grooveshark pryd bydd y cyfieithiadau'n ymddangos.
0 sylw:
Post a Comment