Croeso i fy mlog. Rwtsh llwyr am Gemeg a Chyfrifiaduron gydag ambell gyrch i'r byd personol.

02/05/2011

Spotify Wedi Striwa

Efallai eich bod chi wedi clywed - dyw Spotify ddim yn wasanaeth rhad ac am ddim yn bellach. Wel, 10 awr y mis yn unig, ond 'dyw hynny ddim werth i neb. Felly, es ati i ddarganfod safleoedd eraill sydd yn cynnig yr un fath o wasanaeth, h.y. chwarae yr hyn rydych chi eisiau, nid aros am ambell gân i ddod lan bob hyn a hyn ar rhyw 'orsaf' neu 'sianel'.

Er bod llawer o safleoedd ar gael, dwi wedi dod lan â'r 3 ar y brig (YFMI).

Grooveshark: http://grooveshark.com
Yr enwog Grooveshark - yn cynnwys AC/DC hefyd!
MFlow (Prydain yn unig): http://beta.mflow.com/
mflow - digonedd o gerddoriaeth
Musicuo (Sbaeneg, ond dim problem gyda Google Chrome a Translate): http://www.musicuo.com/

Musicuo - pert iawn hefyd
Rhwng y 3 ohonyn nhw, gallaf chwarae bron 90% o'r cerddoriaeth ar fy rhestrau chwarae Spotify.
Mae sôn bydd Grooveshark yn codi arian am wasanaethau tu hwnt i'r UDA ymhen amser, er dwi heb ffeindio gwybodaeth bendant am hyn 'to.
Wel, dyna fy 2c i beth bynnag. Rhywun arall yn gwybod am wasanaethau tebyg?

0 sylw: