Gwnes greu gyfieithydd enwau cemegol rhyw amser yn ôl, ond roedd yn araf iawn ac yn wallus oherwydd yr algorithm (php) a 'sgwennais (str_replace). Dwi nawr wedi ei hailwampio gan ddefnyddio preg_replace. Mae hwn yn meddwl mae'n rhaid gwneud llawer llai o gylchoedd. Yn ogystal â hyn, nid yw'r fersiwn newydd yn mofyn data o gronfa ddata, felly, dylai fod hyd yn oed yn gynt.
Dyma fe:
Mae dal mewn cyflwr cyntefig ar y funud, ond unwaith i mi ychwanegu mwy o dermau, offer cemegol a thechnegau, gallaf ei gosod mewn pecyn i unrhyw un ddefnyddio, os oes galw.
Caiff unrhyw adborth ei werthfawrogi.
DS: mae rhai problemau i'w sortio gyda 'di' i 'deu', 'de' i 'dad' ac ambell term yn cynnwys sylweddau ïodin. Codai'r rhain oherwydd hyd y darnau a'r posibilrwydd o'u camgyfieithu (e.e. di mewn iodine a geiriau eraill). Parhaf i ffidlan!
0 sylw:
Post a Comment